“Dwi’n doomed rwan!” - Mae Rhys yn berson cydwybodol sydd eisiau gwneud yn dda yn yr ysgol. Gallwn ni weld hyn yn yr olygfa lle mae’n poeni am golli ei waith Daearyddiaeth pan mae ei gyfrifiadur yn ‘crasho’, Does gan Wes ddim llawer o arian. Gallwn ni weld hyn yn yr olygfa pan mae’n gofyn i Els am arian i brynu bwyd a diod. Pan mae Els yn sôn am yr arian cinio mae hi wedi ei gael gan ei rhieni mae Wes yn dweud . . . - “O leia’ ‘ma’n nhw’n cofio dy fwydo di!”, “Fi byth yn mynd i allu plesio Mam a Dad.” - Mae Els yn teimlo dan bwysau i wneud yn dda yn yr ysgol ac i basio ei harholiadau., “Ry’n ni MOR debyg.” - Mae Els eisiau ffeindio rhywbeth mewn cyffredin gyda Wes. Mae hi'n ceisio argyhoeddi ei hun bod y ddau ohonyn nhw'n debyg., “Does ‘na neb yr un oed â ni yn ffitio i mewn gatre’…” - Mae gan Rhys agwedd aeddfed tuag at y berthynas rhwng rhieni a phobl ifanc., “Dwi’n gwybod beth yw e, reit? A dwi’n gwybod bod pobl eraill yn ‘i ga’l e, a dwi ddim. Ond dwi’n ‘i ga’l e nawr, a dwi’n ‘i hoffi e.” - Mae Wes eisiau cael ei garu ac felly mae'n ymateb pan mae Rhys yn dweud bod e ddim yn gwybod beth yw cariad., “Na! Ma hi’n disgwyl amdanat ti! Dyma dy gyfle di! Ma’n rhaid i fi! Rhaid i fi!” - Mae Rhys yn brwydro gyda'i feddyliau ei hun am yrru car ei fam. Mae eisiau helpu Elin ond, ar y llaw arall, mae'n gwybod bod beth mae'n ei wneud yn beryglus., “Dwi ddim yn ‘u gwneud nhw...i beth? Fydd neb yn becso.” - Dydy Wes ddim yn poeni am ysgol oherwydd yn y dyfodol hoffai fod yn “international drug dealer”. Dydy e byth yn mynd i’w wersi a dydy e ddim yn mynd i sefyll ei arholiadau . . ., “Shut up! Ti fel hen fenyw!” - Mae Els yn gas iawn i Rhys. , “Jyst ca’ dy ben OK?” - Mae perthynas Els a Rhys yn un gymhleth. Mae Rhys yn gwneud ei orau i fod yn ffrind da, cefnogol ond mae Els yn gas tuag ato., “Sdim yn bwysig i Mam a Dad, dim ond beth dwi’n mynd i’w wneud pan fi’n tyfu lan.” - Dydy Els ddim yn teimlo bod ei rhieni’n ei deall hi ac mae hyn yn achosi llawer o densiwn yn eu perthynas., “Ma da fi’r math o rieni fyddet ti ddim hyd yn oed yn gallu dychmygu.” - Mae Wes yn byw yn y system ofal oherwydd roedd ei rieni’n ei esgeuluso a’i gam-drin., “Benes i lan yn casualty un tro ar ôl i Dad wylltio.” - Mae Wes yn sôn am ei dad fel person treisgar., “Ry’n ni fel teulu nag ‘yn ni? Y bois a fi.” - I Wes, mae ei ffrindiau’n fwy o deulu iddo na’i rieni., “Wyt ti efo dy druggy no good fat ugly freak brain arse pain – God dwi’n ‘i gasáu o – boyfriend, heno?” - Dydy Wes a Rhys ddim yn dod ymlaen o gwbl. Maen nhw’n fechgyn gwahanol iawn a dydy Rhys ddim yn hoffi bod Wes ac Els yn gariadon., “..Pan dwi’n gyfreithiwr ac mae o ar benefits!” - Mae Rhys yn snob ac yn edrych i lawr ei drwyn ar Wes sy’n dod o gefndir gwahanol iawn i Rhys.,
0%
Dyfyniadau Crash
Share
Share
Share
by
Francesatkinson
Secondary
Welsh
Reading comprehension
Welsh Literature
Edit Content
Print
Embed
More
Assignments
Leaderboard
Flip tiles
is an open-ended template. It does not generate scores for a leaderboard.
Log in required
Visual style
Fonts
Subscription required
Options
Switch template
Show all
More formats will appear as you play the activity.
Open results
Copy link
QR code
Delete
Continue editing:
?